Adlewyrchiadau o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd diwygiedig ar gyfer ymarferwyr yn y Cyfnod Sylfaen
Cyflwynwyd gan Mrs Rhiannon Jenkins
Cwrs ar gyfer ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen sy’n gweithio yn y sector Gymraeg (iaith gyntaf) er mwyn sicrhau gwybodaeth bellach a dealltwriaeth ddyfnach o greu awyrgylch lle gall ddysgwyr ffynnu. Bydd ffocws penodol ar elfennau ac agweddau llafaredd a darllen o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh) diwygiedig yn ogystal â’r Cwricwlwm i Gymru. Rhoddir hefyd syniadau i rieni/gofalwyr sut i hybu dealltwriaeth o brint yn y cartref a’r gymuned leol.
Eir ati i drefnu syniadau a gwybodaeth drwy:
- Chwarae rôl i godi safonau ar lafar
- Gêmau buarth/neuadd i hybu cydweithio a dysgu ar gof
- Dealltwriaeth o gamau dysgu darllen-llun, llythyren, gair a brawddeg
- Cofnodi tystiolaeth o effaith gweithgareddau sbardunol ar y plenty
- Llythrennedd yn y gymuned
Bydd cyfleon i weld a thrafod yr adnoddau diweddaraf sydd wedi eu cynhyrchu ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru i hybu dealltwriaeth o’r FfLlRh diwygiedig a’r Cwricwlwm i Gymru o fewn y Cyfnod Sylfaen.
Bydd y cwrs yn cynnwys gweithgareddau ymarferol a nodiadau ysgrifenedig i ategu cynnwys y diwrnod.
