Dod yn ysgrifenwyr annibynnol CA2/3

Dod yn ysgrifenwyr annibynnol CA2/3

 

Cyflwynyd gan Rhiannon Jenkins

 

Cwrs ar gyfer ymarferwyr cynradd CA2/3 sy’n gweithio yn y sector Gymraeg (iaith gyntaf) er mwyn sicrhau gwybodaeth bellach a dealltwriaeth ddyfnach o greu awyrgylch lle gall eich dysgwyr ffynnu fel ysgrifenwyr annibynnol.  Bydd ffocws penodol ar elfennau ac agweddau ysgrifennu o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh) diwygiedig yn ogystal â chwe maes dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru.

Eir ati i drefnu syniadau a gwybodaeth drwy:

  • Adolygu darnau o waith ysgrifenedig
  • Gwella gwaith ysgrifennu, ei wirio o ran eglurder a threfn
  • Diwygio gwaith ysgrifenedig
  • Ystyried, golygu ac ailddrafftio gwaith ysgrifenedig i wella’r cynnwys

 

Gofynnir i gyfranogwyr y cwrs ddod ag enghreifftiau o waith eu dysgwyr er mwyn trafod a gweithio ar y cynnwys.  Bydd cyfleon hefyd i weld a thrafod yr adnoddau diweddaraf sydd wedi eu cynhyrchu ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru i hybu dealltwriaeth o fframweithiau ysgrifennu o fewn dosbarthiadau CA2/3.

Bydd y cwrs yn cynnwys gweithgareddau ymarferol a nodiadau ysgrifenedig i ategu cynnwys y diwrnod.

 

Crofrestrwch am y cwrs hyn heddi.