Hybu dysgwyr drwy “athroniaeth plant” i resymu yn y sector gynradd
Cyflwynyd gan – Rhiannon Jenkins
Cwrs ar gyfer ymarferwyr cynradd sy’n gweithio yn y sector Gymraeg (iaith gyntaf) er mwyn hybu dealltwriaeth ddyfnach o weithgareddau ‘athroniaeth plant’ yn yr ysgol. Bydd y gwaith yn bwydo elfennau ac agweddau llafaredd ac ysgrifennu o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh) diwygiedig yn ogystal â’r Cwricwlwm Cymraeg (iaith gyntaf) a chwe maes dysgu a phrofiad y Cwricwlwm I Gymru. Bydd y cwrs hefyd yn hybu gwaith dysgwyr MATh ac yn helpu pob dysgwr i ddadansoddi a magu annibyniaeth addysgol.
Eir ati i drefnu syniadau a gwybodaeth drwy:
- Hybu cwestiynau athronyddol
- Trafod gweithgareddau gwahaniaethol a sgiliau meddwl er mwyn hybu dysgwyr annibynnol
- Enghreiffio tasgau ar gyfer pob oed a gallu ond hybu diddordeb y dysgwyr dawnus, athrylithgar yn benodol
- Cofnodi tystiolaeth o effaith gweithgareddau sbardunol ar y plentyn
Bydd cyfleon i weld a thrafod yr adnoddau diweddaraf sydd wedi eu cynhyrchu ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru i hybu dealltwriaeth o’r FfLlRh diwygiedig o fewn y cwricwlwm newydd.
Bydd y cwrs yn cynnwys gweithgareddau ymarferol a nodiadau ysgrifenedig i ategu cynnwys y diwrnod.
Cost:
