
RHIANNON WYNN JENKINS
Mae Rhiannon yn brofiadol iawn yn y sector cyfrwng Cymraeg, gan weithio ledled Cymru fel hyfforddwr ac ymgynghorydd annibynnol. Ers 2010, hi yw’r “arbenigwr pwnc ar gyfer Cymraeg fel iaith gyntaf yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3, 4 a 5” i Lywodraeth Cymru. Mae hi wedi bod yn ddirprwy bennaeth, athrawes ymgynghorol (Cymraeg a Saesneg) a darlithydd prifysgol ym mhob agwedd ar lythrennedd.
O fewn Llywodraeth Cymru, chwaraeodd Rhiannon ran allweddol yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y Prosiect Ymyrraeth Pisa, fu’n gyfrifol am ledaenu arfer dda mewn addysgu ledled Cymru. Roedd hi hefyd yn allweddol yn natblygiad yr elfennau ac agweddau o fewn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd cyfrwng Cymraeg.
Hefyd, mae’n comisiynu ac yn monitro adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer ysgolion i Lywodraeth Cymru. Yn ychwnaegol, mae hi wedi bod yn Fentor Allanol i Athrawon Newydd Gymhwyso (cynradd ac uwchradd) a nawr yn ymgynghorydd a’r cynrychiolydd cyntaf i NACE (National Association for Able Children in Education) yng Nghymru.
Drwy gydol ei chyfnod fel hyfforddwr, gydag arbenigedd mewn sgiliau darllen, ysgrifennu a meddwl, mae Rhiannon wedi ymfalchïo yn ei gwybodaeth nid yn unig o theori’r pynicau hyn ond hefyd yn ei gallu i weithio o fewn y sefyllfa ddosbarth gan ddangos i athrawon a staff cynorthwyo sut i weithredu’r arfer mwyaf diweddar a pherthnasol.
